Yn ngoleuni’r newyddion diweddar ynglŷn â’r posibilrwydd bod diogelwch data Banc Bio y DU wedi’i dorri, hoffem sicrhau ein holl roddwyr sy’n gleifion, a’u teuluoedd, bod y wybodaeth sy’n cael ei chadw gan Fanc Bio Canser Cymru mewn perthynas â samplau meinwe sydd wedi’u rhoi a data gofal iechyd sensitif, i gyd yn ddienw. Nid ydym yn rhyddhau gwybodaeth y gellir adnabod pobl ohoni i ymchwilwyr, nac unrhyw fanc bio na sefydliad arall.
Rydym yn parchu preifatrwydd ein cleifion ac yn gwerthfawrogi eu hawl i gyfrannu at ymchwil yn y dyfodol drwy gyfrwng eu rhoddion meinwe gyda disgresiwn. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd moesegol Banc Bio Canser Cymru o samplau, cysylltwch â [email protected]

